Cyfeiriadau Cerdded

Cyfeiriadau Cerdded Awgrymedig

1. Ger Cofeb Lofaol Genedlaethol a Phwll Glo Universal yn Senghennydd yw man cychwyn y daith Cerdded Trwy Amser. Y côd post yw CF83 4HA Yma fe byddwch yn dod o hyd i’r man cyntaf o ddiddordeb.

2. O Ardd y Gofeb Lofaol Genedlaethol Gymreig, ewch allan o'r ardd drwy’r gatiau, croeswch y stryd i’r palmant a throwch i’r dde. Ar y chwith oedd safle Cytiau’r Cloddwyr erstalwm.

3. O safle Cytiau’r Cloddwyr, croeswch y briffordd ac ewch drwy fynedfa Ysgol Nant-y-Parc. Mae’r Gofeb wreiddiol i fyny’r dramwyfa ar yr ochr chwith.

4. O’r gofeb wreiddiol, cerddwch yn ôl i’r briffordd a throi i’r chwith i fynd ar Stryd Stanley. Roedd Neuadd Aberdâr wedi’i lleoli hanner ffordd i fyny’r stryd hon ar yr ochr dde.

5. Parhewch ar Stryd Stanley gan ddilyn y ffordd i’r dde. Lleolwyd Capel Noddfa ar yr ochr chwith ar ôl y gyffordd â Heol y Groes.

6. Parhewch i gyfeiriad y de ar Stryd Stanley nes ichi gyrraedd y Stryd Fawr. Trowch i’r dde i fynd i’r Stryd Fawr. Ar yr ochr chwith byddwch yn dod o hyd i Gapel Salem, fel yr adnabuwyd ynghynt.

7. O’r sgwâr, ger y gofeb ryfel, cerddwch tua'r gogledd-orllewin i fyny'r Stryd Fasnachol, a byddwch yn dod ar draws Gwesty'r Leigh ar yr ochr chwith.

8. Gan gadw Gwesty'r Leigh ar eich ochr chwith, parhewch gerdded i fyny'r Stryd Fasnachol nes ichi gyrraedd y safle bws. Yma byddwch yn dod o hyd i'r llwybr troed. Cerddwch ar hyd y llwybr troed hyd at Blas y Gwyndwn. Trowch i’r chwith ar Blas y Gwyndwn a cherddwch hyd at ben y stryd. Lle mae Plas y Gwyndwn yn cwrdd â Rhodfa Gwern, byddwch yn dod o hyd i’r orsaf heddlu wreiddiol ar yr ochr dde.

9. Gan gadw’r orsaf heddlu wreiddiol ar eich ochr dde, cerddwch i fyny’r bryn hyd at y mynediad i Barc Plas Cwm. Dyma oedd safle gorsaf reilffordd Senghennydd yn y 1900au cynnar.

10. O Barc Plas Cwm, cerddwch i lawr y bryn ar Rodfa Gwern, yn pasio’r orsaf heddlu wreiddiol ar y chwith a pharhau nes ichi gyrraedd Gwesty'r Parc (sy’n Ganolfan Gymunedol Senghennydd bellach, ac Amgueddfa Dreftadaeth Cwm Aber) ar y dde.

11. Gan gadw Canolfan Gymunedol Senghennydd ar y dde, cerddwch ar hyd Rhodfa Gwern tuag at Sgwâr Senghennydd. Mae lleoliad Gwesty Gwern-y-Milwr ar ddiwedd Rhodfa Gwern.

12. Mae'r plac ar gyfer Sgwâr Senghennydd ar y safle bws ochr arall y stryd i westy Gwern-y-Milwr.

13. O’r safle bws, croeswch y groesfan, a dilyn y Stryd Fasnachol i’r chwith nes ichi gyrraedd y safle bws nesaf, sydd y tu allan i’r Eglwys.

14. O’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, croeswch y stryd a cherdded tua'r dde. Bydd Eglwys Pedr Sant ar eich ochr chwith.

15. O Eglwys Pedr Sant, croeswch y stryd, a cherddwch i lawr y lôn gyferbyn. Dilynnwch y lôn wrth iddi droi i’r chwith a chymerwch y llwybr troed ar eich dde sy’n arwain heibio’r parc sglefrio a'r maes chwarae i blant. Wrth gyrraedd y llwybr beicio, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr nes ichi weld y Clwb Rygbi ar eich chwith.

16. Parhewch i gerdded ar hyd y llwybr beicio, â’r clwb rygbi ar eich chwith. Wrth gyrraedd yr ail gae rygbi, dilynwch y llwybr troed i’r chwith ac yna trowch i’r chwith ar y gyffordd T. Dilynwch y ffordd hon nes ichi gyrraedd Cofeb Lofaol Windsor.

17. O Gofeb Lofaol Windsor ar eich chwith, cerddwch i fyny’r ffordd nes ichi gyrraedd Gwesty'r Windsor ar gornel Heol Caerffili.

18. O Westy'r Windsor, trowch i’r dde i’r Stryd Fawr a cherdded i lawr y bryn. Wrth gyrraedd Heol Dwylan ar y chwith, trowch i’r chwith, a dilyn y ffordd o amgylch i’r dde, heibio Ysgol Cwmaber ac yna i’r dde.

19. O YMCA Cwm Aber, cerddwch i gyfeiriad y de ar hyd Heol Brynhafod, a throwch i’r dde ar Stryd y Brenin. Parhewch ymlaen dros y gylchfan fach a cherddwch o gwmpas y rheiliau hyd at y groesfan sebra ger yr hen Westy Panteg.

20. Wrth gadw'r Panteg ar eich ochr dde, cerddwch tuag at y sgwâr. Trowch i’r chwith i mewn i Heol yr Eglwys a bydd y Neuadd ar y dde wrth ichi gychwyn i fyny’r bryn.

21. O Neuadd Les y Glowyr, parhewch i gerdded i fyny Heol yr Eglwys, nes ichi gyrraedd yr hen fythynnod ar y dde. Gelwir Rhosyn Dy yn Dŷ Watcyn bellach.

22. Drwy gadw'r bythynnod ar eich ochr dde, cerddwch i fyny Heol yr Eglwys nes ichi gyrraedd y Gwesty Brenhinol ar eich chwith.

23. Cerddwch heibio’r Gwesty Brenhinol a throwch i’r chwith i mewn i Heol Hafod. Parhewch i gerdded nes ichi gyrraedd y cyffordd â Stryd Ffransis, a throwch i’r chwith yma. Cerddwch i ben y ffordd a throwch i’r chwith ar y gyffordd-T, a cherddwch tuag at y gyffordd â Heol Tridwr a Heol y Llan. Yma byddwch yn dod o hyd i Westy'r Aber.

24. Gan wynebu Gwesty'r Aber, cerddwch ar hyd y ffordd ar yr ochr chwith, ac i lawr y grisiau i fynd ar y llwybr beicio. Trowch i’r chwith. Safle Gorsaf Reilffordd Abertridwr oedd hwn.

25. O safle’r hen Orsaf Reilffordd, parhewch i gerdded ar hyd y llwybr nes ichi gyrraedd Heol yr Eglwys. Trowch i’r dde a cherddwch i lawr y bryn hyd at Sgwâr Abertridwr.

26. O Sgwâr Abertridwr, cerddwch i gyfeiriad y dwyrain ar hyd Stryd Thomas, a bydd yr hen Gapel Nasareth ar y chwith.

27. O Gapel Nasareth, cerdded tua’r dwyrain ar Stryd Thomas. Mae Capel Beulah ar y dde wrth y gyffordd â Heol y Groes a Chlôs y Brenin.

28. O Gapel Beulah, cerddwch i gyfeiriad y dwyrain ar hyd Stryd Thomas. Trowch i’r dde i fynd ar Heol Aberfawr. Mae safle Fferm Aberfawr ar y dde.

29. O Fferm Aberfawr, ewch i gyfeiriad gogledd ar Heol Aberfawr, y ffordd a ddaethoch, ac yna trowch i’r dde i fynd ar Stryd Thomas. Mae’r hen Siop Fwyd ar y gyffordd â Heol Aberfawr.

30. Gan gadw'r hen siop fwyd ar eich dde, cerddwch dua 230 medr i Felin Aber, sef y man olaf o ddiddordeb ar y daith gerdded hon.

I ddychwelyd i'r dechrau, gallwch ddilyn y briffordd (Stryd Thomas> y Stryd Fawr> Heol Caerffili > y Stryd Fasnachol) am 2.4 km/1.5 milltir. Neu gallwch fynd ar fws B.