Hwn yw’r tŷ hynaf yn Abertridwr, ac mae’n dyddio i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Yr ysgubor (sydd wedi’i gysylltu i’r tŷ, ond sydd bellach yn eiddo i gymydog ac sy’n cael ei ddefnyddio fel garej) yw’r ysgubor pileri crwn hynaf ym Morgannwg Ganol. Mae cofnodion Cyfrifiad 1841 yn dangos mai enw’r tŷ oedd Tŷ Aber ac roedd Thomas ac Ann Jenkins a’u saith o blant yn byw yno. Bu Thomas ac Ann yn byw yno am ddeg mlynedd ar hugain arall cyn symud i Fferm Penygroes yng Nghroeswen. Mae Cyfrifiad 1871 yn enwi’r eiddo yn Fferm Aber ac roedd Jane Thomas (gwraig weddw 62 oed) a’i thri o blant Thomas, Edward a Jennette yn byw yno. Daethant i Fferm Aber (310 acer) o Gellifanheulog neu Gellifanadlog fel y’i gelwir yn ddiweddarach. Bu Edward Thomas (g. 1844) yn byw ar Fferm Aber hyd at ei farwolaeth ar 27ain Chwefror 2912. Gwerth ei eiddo ar adeg ei farwolaeth oedd £18,569. 12s.7d. Gelwir y tŷ yn Aberfawr am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 1881 a chofnodir bod ganddo 250 acer o dir. Roedd Edward a Catherine Thomas yn aelodau o Gapel yr Annibynwyr Cymraeg yng Nghroeswen. Gwnaethant roddion hael i Gapel Croeswen gan gynnwys cloc a rhai cadeiriau derw cerfiedig (sy’n parhau yng Nghroeswen hyd heddiw). Bu farw un o feibion Edward Thomas, Edgar Hamilton Thomas, g.1892, ym Mesopotamia ym 1916 yn 24 oed – cafodd ei gladdu yn Amara. Roedd yn aelod o 8fed Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac roedd yn rhan o’r fyddin ymgyrchol a aeth i India. Yn dilyn y teulu Thomas family bu David Padfield yn byw yn y tŷ, ac yna’r Ffermwr David Morgan a’i deulu. Bu’r teulu Morgan yn byw yn Aberfawr hyd at 1974 pan gafodd y fferm, ynghyd â’i enw “Aberfawr” ei symud i Heol Eglwysilan - maent yn parhau i ffermio yn yr ardal hon. Mae’r ffermdy gwreiddiol, sydd mewn perchenogaeth breifat, yn parhau i sefyll heddiw er ei fod wedi’i amgylchynu gan dai newydd. Ar ôl ei ganfod mae’n hawdd iawn dychmygu’r ardal pan gafodd ei adeiladu gyntaf! Hysbysiad Cwrtais Hoffem eich atgoffa fod nifer o’r mannau o ddiddordeb yn gartrefi preifat. Yn garedig mae’r perchnogion wedi rhoi caniatâd i fod yn rhan o’n llwybr cerdded o achos natur hanesyddol y safle, ond rydym yn gofyn i chi gadw rhag tresmasu a tharfu ar y preswylwyr. Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd gan Gary Plumley.